Isaac Nash
Mae cwest i farwolaeth bachgen 12 oed a aeth ar goll yn y môr ger Aberffraw, Ynys Môn wedi cofnodi rheithfarn o farwolaeth drwy anffawd.
Roedd Isaac Nash, o Huddersfield yn Swydd Efrog, a’i frawd bach Xander Nash, 10, ar wyliau gyda’u teulu pan gafodd y ddau eu llusgo i’r môr gan donnau garw ar 29 Awst y llynedd.
Cafodd Xander Nash ei achub o’r dŵr, ond fe ddywedodd Adam Nash, tad y ddau frawd, nad oedd o wedi medru achub Isaac.
Wrth gofnodi rheithfarn o farwolaeth drwy anffawd yn y cwest yn Llangefni heddiw dywedodd y crwner Dewi Pritchard Jones ei bod yn debygol bod Isaac Nash wedi boddi.
Er gwaetha ymdrechion yr heddlu a gwylwyr y glannau, mae ei gorff ar goll o hyd.