Sameena Imam
Mae’r heddlu wedi cadarnhau mai corff dynes o Gaerdydd oedd yr un y cafwyd hyd iddo ar randir yng Nghaerlŷr.
Cafwyd hyd i gorff Sameena Imam ddydd Gwener.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu West Midlands bod post mortem ddydd Sadwrn wedi methu a darganfod sut y bu farw ac mae disgwyl i brofion tocsicoleg gymryd rhai wythnosau i’w cwblhau.
Roedd Sameena Imam, 34 oed, yn byw yng Nghaerdydd ond cafodd ei gweld y tro diwethaf yn Coventry ar Noswyl Nadolig.
Yn y ddalfa
Mae ei chorff bellach wedi cael ei adnabod yn swyddogol ac mae ei theulu wedi cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf.
Mae dau ddyn sydd wedi eu cyhuddo o’i llofruddio wedi cael eu cadw yn y ddalfa.
Cafodd Roger Cooper, 40, o Coventry, a’i frawd David Cooper, 38, o Gaerlŷr eu harestio yn gynharach y mis hwn ac roedd y ddau wedi ymddangos gerbron Llys y Goron Birmingham ar 13 Ionawr.