Mae dyn 22 oed wedi cael gorchymyn cymunedol ac atal wedi iddo gyhoeddi lluniau anweddus o’i gyn-gariad ar y we.
Clywodd Llys Ynadon Hwlffordd fod Nathan Rhys Lloyd o Arberth wedi cyhoeddi’r lluniau o’i gyn-gariad yn ei dillad isaf wedi i’w perthynas ddod i ben.
Yn ogystal, cyhoeddodd Lloyd fideo o’r ddynes yn noeth ar wefan arall cyn newid ei chyfrinair fel nad oedd modd iddi ddileu’r deunydd.
Plediodd Lloyd yn euog i’r cyhuddiadau, ac fe orchmynnodd y llys iddo beidio â chysylltu â’i gyn-gariad.
Cafodd orchymyn cymunedol am gyfnod o 24 mis, ac fe fydd yn rhaid iddo dalu costau gwerth £145.
Yn ôl deddfwriaeth a allai ddod i rym erbyn diwedd y flwyddyn, fe fyddai ‘pornograffi dial’ – y weithred o gyhoeddi lluniau neu ddeunydd o gyn-gariadon ar y we heb eu caniatâd – yn drosedd benodol a allai olygu cyfnod o ddwy flynedd yn y carchar.