Llys y Goron Abertawe
Mae dynes wedi dweud wrth lys ei bod hi wedi cael perthynas rywiol ag athro pan oedd hi’n 15 oed.
Mae Jonathan Mark Norbury, 33, wedi’i gyhuddo o gael perthynas rywiol â dwy ferch o dan 16 oed.
Plediodd yn ddieuog i 14 o gyhuddiadau yn Llys y Goron Abertawe.
Mae’n cyfaddef cyffwrdd â’r ddwy yn rhywiol, ond ar ôl iddyn nhw droi’n 16 oed.
Dywedodd un o’r merched wrth y llys ei bod hi’n 15 oed pan ddechreuon nhw gusanu.
Dywedodd ei bod hi newydd gael rhyw am y tro cyntaf â bachgen arall oedd yn ffrind iddi, a’i bod wedi bwriadu anfon neges at ei ffrind yn dweud hynny wrthi.
Ond anfonodd hi’r neges trwy ddamwain at Norbury, ac fe wnaeth y ddau gyfarfod mewn tafarn.
Nododd Elwen Evans ar ran y diffynnydd nad oedd y ferch wedi sôn wrth yr heddlu fod y ddau ddigwyddiad ar yr un diwrnod.
Meddai: “Roedd yn creu embaras.”
Ychwanegodd nad oedd hi wedi sôn am Norbury gan nad oedd hi am achosi trafferth iddo.
Ond wrth groesholi’r ferch, awgrymodd Elwen Evans nad oedd y ddau wedi cael perthynas rywiol tan fod y ferch yn 16 oed.
Meddai’r ferch: “Dydy hynny ddim yn wir.”
Yn ystod yr achos, mae’r llys wedi clywed gan ferch arall oedd wedi honni ei bod hi wedi cael “cyswllt rhywiol” â Norbury pan oedd hi’n ferch ysgol.
Parhaodd y berthynas honno tan ei bod hi’n 19 oed, meddai.
Ond mae hi’n awgrymu bod y ferch arall am “ddial” ar Norbury ar ôl darganfod ei fod e newydd briodi.
Mae Norbury yn gwadu naw cyhuddiad o gyffwrdd â phlentyn mewn modd rhywiol a phum cyhuddiad o achosi neu annog person o dan 16 oed i gwblhau gweithred rywiol.