Mae landlordes tafarn yn Sir Benfro wedi cael dirwy o fwy nag £8,000 ar ôl pledio’n euog i gyfres o droseddau’n ymwneud â hylendid bwyd.

Cafodd Angela Jarvis, sy’n gyfrifol am baratoi bwyd yr Horse and Jockey yn Aberdaugleddau, ddirwy o £4,500, yn ogystal â gorchymyn i dalu gwerth £3,500 o gostau.

Ymwelodd swyddogion Iechyd yr Amgylchedd â’r safle ar Awst 7 y llynedd er mwyn cynnal arolwg.

Roedd y gegin yn frwnt, cyfleusterau golchi yn anodd eu cyrraedd a bwyd yn denu clêr.

Cafodd y safle sgôr hylendid o 0, yr isaf sy’n bosibl ac  mewn arolwg pellach ym mis Ionawr, roedd y safle’n frwnt o hyd ac roedd diffyg dŵr twym.

Mae gan y dafarn bellach sgor hylendid o 1.

Hapus gyda’r canlyniad’

Yn dilyn y gwrandawiad llys, dywedodd y Cynghorydd Huw George ei fod yn hapus gyda chanlyniad yr achos.

“Fe ddylai atgyfnerthu pa mor bwysig yw gwneud yn siwr bod gan fusnesau bwyd lefelau boddhaol o hylendid bwyd er mwyn gwarchod iechyd y cyhoedd.”

Dywedodd y byddai modd osgoi achos llys pe bai’r dafarn wedi gweithredu ar yr argymhellion.