Tony Blair
Mae nifer o Aelodau Seneddol blaenllaw wedi beirniadu’r newyddion na fydd Adroddiad Chilcot am rôl Prydain yn rhyfel Irac yn cael ei gyhoeddi tan ar ôl yr etholiad cyffredinol ym mis Mai.

Cafodd yr ymchwiliad ei sefydlu chwe blynedd yn ôl, ac mae ei arweinydd Syr John Chilcot yn dweud mai rhoi cyfle i unigolion sydd wedi’u beirniadu yn yr adroddiad ymateb sy’n gyfrifol am yr oedi.

Mae’r cyn brif weinidog Tony Blair wedi mynnu heddiw nad yw e’n gyfrifol am yr oedi. Mae disgwyl iddo gael ei feirniadu yn yr adroddiad am fynd a Phrydain i ryfel yn erbyn Saddam Hussein yn 2003.

Ond mae Blair yn mynnu bod ganddo ddiddordeb “cymaint ag unrhyw un arall mewn gweld yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi.”

Mae’n debyg bod David Cameron wedi ysgrifennu at Syr John yn dweud y byddai wedi hoffi gweld yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi cyn yr etholiad ym mis Mai, ond ei fod yn derbyn bod ei gyhoeddi yn fater i’r ymchwiliad.

Ddechrau’r wythnos, cafodd y penderfyniad ei feirniadu gan Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Elfyn Llwyd.

Dywedodd wrth raglen Sunday Politics y BBC mai “sarhad” i’r rhai fu farw yn Irac yw’r oedi.

“Cyn gynted ag y bo’r adroddiad yn barod, mae’r amseru i fyny i’r prif weinidog.

“Ac mae’n ymddangos i mi fod gynnon ni fis Mawrth i gyd heb fawr ddim wedi’i gynllunio ar ei gyfer o.

“Mi allen ni drafod yr adroddiad pwysig iawn hwn.

“Mae methu â gwneud hynny’n tanseilio hygrededd yr adroddiad ac rwy’n meddwl ei fod yn sarhad i’r rhai a gollodd anwyliaid yn y gwrthdaro.”

Beirniadaeth

Mae nifer o wleidyddion wedi ychwanegu eu lleisiau at y feirniadaeth.

Dywedodd arweinydd UKIP, Nigel Farage ei bod yn “anhygoel” nad yw’r adroddiad wedi’i gyhoeddi, ac fe gyhuddodd y sefydliad o “guddio” ffeithiau.

Dywedodd llefarydd materion tramor y Democratiaid Rhyddfrydol, Tim Farron fod angen “dysgu gwersi” ynghylch mater sy’n effeithio ar bawb.

Ychwanegodd y cyn-Dwrnai Cyffredinol, Dominic Grieve wrth y BBC ei fod wedi disgwyl i’r adroddiad gael ei gyhoeddi “cyn y Nadolig”.

Mynegodd dirprwy arweinydd yr SNP “rwystredigaeth ddwys a siom ofnadwy” ynghylch yr oedi.