Llifogydd yn Llanelwy
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n gosod amddiffynfeydd dros dro yn Llanelwy yr wythnos hon er mwyn ymateb i’r posibilrwydd o lifogydd.

Bydd 70% o’r amddiffynfeydd yn cael eu gosod ym Mharc y Ro tan ddechrau mis Ebrill.

Bydd trigolion lleol sy’n byw ger afon Elwy o’r A55 i Ruddlan sydd wedi cofrestru yn derbyn rhybudd am lifogydd posib.

Dywedodd arweinydd Tîm Cyflawni Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru, Sara Pearson: “Achosodd llifogydd 2012 ddioddefaint mawr i gannoedd o bobl Llanelwy, a gall yr amddiffynfeydd llifogydd tros-dro hyn ddiogelu rhagor arnynt.

“Bydd rhan-osod amddiffynfeydd llifogydd tros-dro yn tocio llawer ar amser eu gosod, ac yn galluogi symud ein gweithwyr i helpu diogelu mannau eraill.

“Rydym yn parhau i weithio tuag ateb amgenach yn y tymor hir i leihau bygythiad llifogydd yn Llanelwy, ond bydd y camau tymor byr hyn o gymorth, hefyd.”

Eisoes, mae rhan o wal amddiffyn a sylfeini stribyn concrit newydd wedi’u gosod ar hyd 80 metr o’r arglawdd presennol.

Bydd hyn yn cyflymu’r broses o osod amddiffynfeydd hanner metr o uchder ar hyd 40 metr o afon Elwy.