Mae dynes wedi marw ar ôl cael ei tharo gan drên ger gorsaf Penarth, Caerdydd y bore ma.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i orsaf Heol Dingle toc cyn 6 o’r gloch.
Nid yw’r Heddlu Trafnidiaeth yn trin ei marwolaeth fel un amheus.
Dywedodd llefarydd: “Cafodd y ddynes driniaeth gan barafeddygon yn y fan a’r lle cyn cael ei throsglwyddo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd, lle bu farw o ganlyniad i’w hanafiadau.”
Ychwanegodd fod ymchwiliad ar y gweill i ddarganfod pwy yw’r ddynes ac i roi gwybod i’w theulu.
Mae’r achos hefyd wedi’i gyfeirio at y crwner.