Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi eu bod yn ystyried adeiladu tair melin wynt hyd at 45m o uchder allai gynhyrchu 10% o drydan y brifysgol.
Bydd y brifysgol yn trafod y cynllun gwerth £2.5m gyda myfyrwyr a Chyngor Sir Ceredigion cyn penderfynu a fyddan nhw’n bwrw mlaen ai peidio.
Dywedodd y brifysgol eu bod yn gobeithio adeiladu’r tyrbinau 250kw ar ddau safle ar gyrion y dref, ac y byddai’r datblygiad yn arbed ynni iddynt.
Ymgynghoriad
Mae’r datblygiad yn rhan o gynllun ‘Prifysgol Aberystwyth yn creu Dyfodol Cynaliadwy’ fydd yn gobeithio arbed costau trydan i’r sefydliad dros oes y tyrbinau o 20 mlynedd.
Yn ogystal â chynnal astudiaeth dichonolrwydd i weld beth fydd yr anghenion cynllunio a busnes, mae’r Brifysgol wedi cyflwyno barn sgopio i Gyngor Sir Ceredigion a hefyd yn bwriadu cynnal ymgynghoriad gyda myfyrwyr, y cyhoedd, a staff y Brifysgol.
Dywedodd y brifysgol y gallai’r tri thyrbin hefyd ddarparu adnodd dysgu gwerthfawr i rai myfyrwyr fel rhan o’u hastudiaethau.
“Bydd datblygu’r tyrbinau yn cynorthwyo’r Brifysgol i wneud arbedion sylweddol i’n biliau trydan, fydd wedyn yn ein cynorthwyo i gynnig profiad myfyrwyr rhagorach,” meddai Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth Rebecca Davies.
Cyrion y dref
Os yw’r datblygiad yn mynd yn ei flaen fe fydd y tyrbinau yn cael eu hadeiladu ar safleoedd sydd yn berchen i’r brifysgol ar gyrion Aberystwyth.
Byddai un wedi’i leoli’n agos at ddatblygiad Pentre Myfyrwyr Penglais ar ffordd yr A487 wrth ddod i mewn i’r dref, gyda’r ddwy arall ar dir gyferbyn â Champws Gogerddan, ger ffordd yr A4159 am Langurig.
Mae disgwyl y bydd y tyrbinau yn mesur 30m o uchder i’r hwb, gyda chyfanswm uchder o 45m i ben bob llafn.
Disgwylir i’r prosiect greu arbedion sylweddol dros oes y datblygiad, gan ddefnyddio costau ynni presennol.
Bydd modd i aelodau’r cyhoedd glywed mwy am y cynllun yng nghyntedd yr Hen Goleg o 28 Ionawr i 6 Chwefror, yn Undeb y Myfyrwyr rhwng 9 i 13 Chwefror, ac yna yng nghyntedd IBERS, Campws Gogerddan o 16 i 20 Chwefror 2015.