Lluoedd Ffrainc ar ddyletswydd tu allan i synagog ym Mharis
Fe fydd Ffrainc yn rhoi arfau ychwanegol i heddluoedd y wlad ac yn penodi 2,600 o swyddogion gwrth-frawychiaeth newydd, yn ôl y Prif Weinidog Manuel Valls.
Bydd Llywodraeth Ffrainc yn gwario 425 million ewro (£325 miliwn) ar fesurau gwrth-frawychiaeth dros y tair blynedd nesaf, mewn ymateb i’r tridiau o ymosodiadau brawychol diweddar ym Mharis.
Daw’r newyddion wrth i bedwar dyn gael eu cyhuddo o brynu arfau ar gyfer Amedy Coulibaly, oedd yn gyfrifol am saethu plismones a chadw pobl yn wystlon mewn archfarchnad Iddewig gan ladd pedwar ohonyn nhw.
Dyma’r cyhuddiadau cyntaf ers i 17 o bobol gael eu lladd yn yr ymosodiadau a ddechreuodd gyda’r gyflafan yn swyddfa Charlie Hebdo. Cafodd tri swyddog heddlu eu lladd yn ystod yr ymosodiadau ynghyd a’r tri dyn arfog.
Fe fydd Ffrainc hefyd yn gwella ei wasanaeth cudd-wybodaeth ac yn cyflwyno mesurau fydd yn ei gwneud yn haws i glustfeinio ar sgyrsiau ffon ac i fonitro carcharorion, meddai’r Prif Weinidog.