Abertawe
Gallai Canolfan Ddinesig Abertawe gael ei gwerthu fel rhan o becyn i adfywio canol y ddinas.

Bydd y Kingsway a Chanolfan Siopa Dewi Sant hefyd yn cael eu hadfywio wrth i’r Cyngor Sir geisio trawsnewid canol y ddinas yn ardal sy’n cynnig cyfleoedd hamdden, diwylliant, manwerthu a busnes.

Byddai gwerthu’r Ganolfan Ddinesig yn ddibynnol ar gynllun busnes yn cael ei dderbyn gan y Cyngor Sir.

Pe bai’r Ganolfan Ddinesig yn cael ei gwerthu, byddai canolfan newydd yn cael ei chodi ar y Kingsway.

Byddai’r cyfleusterau manwerthu a hamdden yn cynnwys codi sgwâr, sinema, siopau, bwytai a llety, yn ogystal â swyddfeydd.

Gallai datblygiad newydd gael ei godi ar safle presennol y Ganolfan Ddinesig er mwyn datblygu’r Glannau.

Mewn datganiad, dywedodd arweinydd y Cyngor, Rob Stewart: “Mae adfywio canol y ddinas yn brif flaenoriaeth, nid yn unig i’r Cyngor ond hefyd i bobol Abertawe yn gyffredinol.

“Maen nhw wedi aros am nifer o flynyddoedd am ganol y ddinas maen nhw am ei chael ac rydym wedi ymroi i gyflwyno’r cynlluniau uchelgeisiol hyn.”

Ychwanegodd fod y Cyngor am gynnig “canol y ddinas sy’n ffynnu ac yn fywiog”.