Gwesty Lawton Court, Llandudno
Mae gwesty yng Nghymru wedi cael ei enwi yn un o westai bargen gorau’r byd ar ôl derbyn sgôr uchel gan westeion.

Fe wnaeth Gwesty Lawton Court yn Llandudno guro cystadleuaeth gan westai o amgylch y byd yn ng ngwobrau 2015 Travellers’ Choice.

Cafodd y gwobrau eu seilio ar filiynau o adolygiadau sydd wedi eu sgwennu dros y flwyddyn ddiwethaf ar y wefan adolygiadau TripAdvisor.

Daeth Gwesty Lawton Court yn gyntaf yng nghategori Gwestai Bargen Gorau’r  Byd, ac roedd yr adolygiadau’n canmol y perchnogion, staff, bwyd, y lleoliad ar lan y môr, golygfeydd a glendid.

Mae hefyd wedi derbyn yr ail safle yng Ngwestai Bach Gorau’r Byd a daeth yn bedwerydd yn y byd am y gwasanaeth sydd ar gael.

Agorodd y gwesty, ble mae ystafell yn costio £74 y person y noson, y llynedd ac mae’n cael ei redeg gan Scott a Hannah Lawton-Jones.

Dywedodd y cwpl fod y gwobrau yn “ddiweddglo gwych” i’w blwyddyn gyntaf fel perchnogion Gwesty Lawton Court.

Fe wnaeth Tŷ Gwledig Llwyn Helyg yn Llanarthne hefyd ymddangos yn y 10 uchaf yng nghategori gwely a brecwast a daeth chwaer westy Gwesty Lawton Court, Gwesty Lauriston Court, yn Llandudno yn chweched yng nghategori Gwestai Bargen Gorau’r Byd.

Gwesty’r Haymarket yn Llundain oedd gwesty gorau’r DU, tra mai’r Gili Lankanfushi yn y Maldives aeth a teitl gwesty gorau’r byd ar gyfer 2015.