Jane Hutt
Fe all Cymru ac Iwerddon elwa o £80 miliwn o gyllid Ewropeaidd a fydd yn helpu i gryfhau’r cysylltiadau economaidd rhwng y ddwy wlad.
Cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid a Busnes, Jane Hutt, heddiw bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi cytuno mewn egwyddor i ariannu rhaglen Iwerddon-Cymru 2014-2020, a bod disgwyl cadarnhad ffurfiol yn yr wythnosau nesaf.
Byddai’n gweld partneriaid yng Nghymru ac Iwerddon yn cydweithio ar brosiectau ym meysydd arloesi, newid hinsawdd, cyfoeth diwylliannol a naturiol, treftadaeth a thwristiaeth.
“Mae Cymru mewn lleoliad perffaith i fasnachu ag Iwerddon ac mae’n gyswllt i farchnad y Deyrnas Unedig a thu hwnt i Ewrop,” meddai Jane Hutt.
“Hefyd mae cyswllt cryf rhwng dyheadau Iwerddon a rhai Llywodraeth Cymru o ran llywio twf economaidd a swyddi cynaliadwy yn y ddwy wlad.”
Datblygiad
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai’r rhaglen yn gweithio er bydd cymunedau yn ne-ddwyrain Iwerddon ac yng ngogledd a gorllewin Cymru ac yn canolbwyntio ar:
- Arloesi trawsffiniol;
- Y ffordd y mae Môr Iwerddon a chymunedau arfordirol yn addasu i newid yn yr hinsawdd; ac
- Adnoddau diwylliannol a naturiol, gyda chanolbwynt ar dwristiaeth.