Yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May
Mae ffeil a gafodd ei ddarganfod yn yr Archif Genedlaethol yn awgrymu “ymddygiad rhywiol annaturiol” yn San Steffan yn y gorffennol.

Cafodd y ddogfen ei darganfod gan y darlithydd Dr Chris Murphy yn Kew yn ne orllewin Llundain.

Yn ôl y Swyddfa’r Cabinet, cafodd y ddogfen ei chadw gan ei bod yn cynnwys gwybodaeth am y gwasanaethau diogelwch a chyngor gan Swyddogion y Gyfraith.

Awgrymodd llefarydd y byddai’r ffeiliau ar gael i’r ymchwiliad a gafodd ei sefydlu gan yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May i honiadau hanesyddol o gam-drin plant.

Bydd yr ymchwiliad yn ceisio penderfynu a gafodd honiadau o gam-drin plant yn yr 1980au eu rhoi o’r neilltu.

Dywedodd Dr Chris Murphy wrth Sky News ei fod wedi cael sioc o ddarganfod y ffeil, a’i fod wedi pendroni ynghylch “goblygiadau” yr hyn yr oedd e wedi’i ddarganfod.

Mae dosbarthiad y ffeil yn awgrymu ei bod wedi’i gweld gan swyddfa’r Prif Weinidog, ond mae ysgrifennydd y wasg Margaret Thatcher, Syr Bernard Ingram wedi dweud nad yw’n cofio’r ffeil.

Dechrau cythryblus yr ymchwiliad

Ers i’r ymchwiliad gael ei sefydlu, mae dau gadeirydd – Fiona Woolf a’r Farwnes Butler-Sloss wedi ymddiswyddo.

Roedd amheuon ynghylch pa mor addas oedd y ddwy i arwain yr ymchwiliad oherwydd eu perthynas agos â nifer o bobol flaenllaw’r “sefydliad”.

Mae Prif Weithredwr yr NSPCC, Peter Wanless wedi galw am ryddhau’r ffeil i’r ymchwiliad.