Syr John Chilcot
Fe ddatgelwyd heddiw na fydd adroddiad hir-ddisgwyliedig Chilcot i rôl Prydain yn y rhyfel yn Irac yn cael ei gyhoeddi tan ar ôl yr etholiad cyffredinol ym mis Mai.

Chwe blynedd ers i’r ymchwiliad ddechrau, fe fydd cadeirydd y panel Syr John Chilcot heddiw yn esbonio ei resymau dros yr oedi mewn llythyr at y Prif Weinidog David Cameron.

Mae’n debyg bod David Cameron wedi ysgrifennu at Syr John yn dweud y byddai wedi hoffi gweld yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi cyn yr etholiad ym mis Mai, ond ei fod yn derbyn bod ei gyhoeddi yn fater i’r ymchwiliad.

Dywed Syr John bod yr ymchwiliad wedi rhoi cyfle i’r rheiny sydd wedi cael eu beirniadu yn yr adroddiad i ymateb, a bod hynny wedi arwain at yr oedi. Mae dadleuon wedi bod hefyd ynglŷn â rhyddhau negeseuon cyfrinachol rhwng Tony Blair a chyn arlywydd yr Unol Daleithiau George Bush.

Ond mewn llythyr at Syr John neithiwr, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg y byddai’r oedi yn “annealladwy” i’r cyhoedd ac mae wedi galw ar y cadeirydd i osod amserlen “mwy clir” a dyddiad penodol ar gyfer cyhoeddi’r adroddiad.

‘Rhwystredigaeth’

Cafodd yr ymchwiliad ei sefydlu yn wreiddiol gan y prif weinidog ar y pryd Gordon Brown yn 2009 a bu’r ymchwiliad yn cymryd tystiolaeth hyd at 2011.

Yn gynharach y mis hwn bu David Cameron yn mynegi ei “rwystredigaeth” ynglŷn â’r oedi.

Mae Aelodau Seneddol hefyd wedi ymateb yn chwyrn i’r oedi diweddaraf ac yn bwriadu cynnal dadl yn y Senedd wythnos nesaf.

Dywedodd yr AS Ceidwadol David Davis wrth y Guardian: “Nid yw hyn yn ddigon da. Mae mwy na phum mlynedd ers i’r ymchwiliad ddechrau. Mae’n rhaid i ni gael gwybod pam.

“Mae hyn er mwyn i’r wlad gael deall pam ein bod ni wedi gwneud camgymeriad dybryd yn Irac. Nid yw gohirio’r peth yn ddigon da.”