Leighton Andrews
Bydd Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, yn traddodi darlith heno ar ddyfodol gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Mae disgwyl i Leighton Andrews ddweud fod arweinyddiaeth gref yn allweddol i ddarparu gwell gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, a bydd yn amlinellu cyfres o gamau gweithredu y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd er mwyn cyflawni hynny.

Mae’r ddarlith yn nodi blwyddyn union ers cyhoeddi adroddiad Comisiwn Williams a oedd yn edrych ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Nododd yr adroddiad dros 60 o argymhellion, gan gynnwys torri nifer yr awdurdodau lleol o 22 i 12,11 neu 10.

Roedd y comisiwn hefyd yn dweud y dylai cytundebau ar ad-drefnu gael eu gwneud erbyn y Pasg y llynedd fan bellaf, ond does dim penderfyniad wedi ei wneud hyd yn hyn.

Mentrau digidol

Yn narlith ‘Ble nesaf ar gyfer diwygio gwasanaethau cyhoeddus Cymru?’, sydd wedi cael ei threfnu gan y Sefydliad Materion Cymreig, bydd Leighton Andrews yn amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen ag argymhellion y Comisiwn Williams.

Bydd yn cyhoeddi Panel Arwain ar Wasanaethau Cyhoeddus i weithredu fel Grŵp Cynghori’r Gweinidog; cefnogaeth i gynlluniau gan NESTA a Phrifysgol Caerdydd i ddatblygu Lab Arloesi ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru; yr angen am dryloywder yn y defnydd o ddata gwasanaeth cyhoeddus; Cronfa Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol newydd gwerth £250,000 y flwyddyn i yrru mentrau digidol newydd yn y gwasanaethau cyhoeddus; a dyletswydd newydd ar arweinwyr llywodraeth leol i hyrwyddo amrywiaeth o fewn eu cynghorau.

Bydd hefyd yn cadarnhau y bydd y Papur Gwyn ar Lywodraeth Leol yn cael ei gyhoeddi ar 3 Chwefror.

‘Arwain trwy esiampl’

Yn ei araith, bydd Leighton Andrews yn dweud: “Mae pobl yn dod i weithio yn y gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru i wneud gwahaniaeth. Gan weithio gyda’n gilydd, gallwn gyflawni mwy nag y gallem gyflawni fel unigolion.

“Er mwyn helpu i ddod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o weithio, rydym yn sefydlu Panel Arwain ar Wasanaethau Cyhoeddus. Bydd yn siapio ffyrdd gwahanol o ddarparu gwasanaethau trwy dynnu ar arfer gorau, ac arbrofi gyda, ac annog, arloesi.

“Hefyd, mae yna fomentwm cynyddol yng Nghymru heddiw o amgylch yr angen brys i gynyddu amrywiaeth mewn bywyd cyhoeddus.

“Mae’n gwneud synnwyr i sicrhau fod gennym amrywiaeth o bobl sy’n dal swyddi cyhoeddus uwch yn yr un modd ag y mae gennym gymaint o wahanol bobl sy’n byw yn ein cymunedau.

“Mae bywyd cyhoeddus yn ymwneud â chynrychiolaeth, gan arwain trwy esiampl, ac yn adlewyrchu barn cymunedau i brosesau ein sefydliadau cyhoeddus o wneud penderfyniadau.

“Rydym am i bobl sy’n byw yng Nghymru deimlo fod y rhai sy’n gwneud penderfyniadau gyda dealltwriaeth ddofn o’u hanghenion a’r heriau.”

Bydd Leighton Andrews yn traddodi’r ddarlith yng Nghaerdydd heno am 7yh.