Clywodd llys heddiw fod nyrs wedi llofruddio tri chlaf a gwenwyno 18 o bobl eraill trwy heintio hylif gydag inswlin.
Roedd Victorino Chua, 49, hefyd wedi newid dos presgripsiwn cleifion yn fwriadol tra’n gweithio fel nyrs staff yn Ysbyty Stepping Hill yn Stockport, clywodd Llys y Goron Manceinion.
Wrth amlinellu achos yr erlyniad yn ei erbyn, dywedodd Peter Wright QC fod 21 o gleifion wedi dioddef yn sgil ei weithredoedd gyda thri ohonynt – Tracey Arden, 44, Arnold Lancaster, 71, a Derek Weaver, 83 – wedi marw.
Daeth Victorino Chua, sydd o Ynysoedd y Philipinas, i’r DU gyntaf yn 2002 ac roedd wedi gweithio yn Ysbyty Stepping Hill ers 2009.
Mae Chua wedi pledio’n ddieuog i 36 cyhuddiad i gyd, gan gynnwys y tair llofruddiaeth honedig, un cyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad, 23 cyhuddiad o ymgais i gyflawni niwed corfforol difrifol, wyth cyhuddiad o geisio gwenwyno, ac un cyhuddiad o wenwyno.
Digwyddodd yr holl droseddau honedig rhwng Mehefin 2011 ac Ionawr 2012 ymlaen.
Dywedodd Peter Wright QC fod “patrwm” wedi ei ddarganfod yn dilyn ymchwiliad enfawr gan yr heddlu wnaeth arwain at adnabod y “llofrudd.”
Fe fydd yr achos yn parhau yfory.