Heddlu gwrth-frawychiaeth
Dyw hi ddim yn bosibl monitro gweithgareddau brawychwyr heb ymyrryd ar fywydau pobl eraill fel y cyhoedd, gwleidyddion a chwmnïau technoleg, rhybuddiodd cyn bennaeth MI6 heddiw.
Yn ei araith gyntaf ers iddo adael ei swydd fel pennaeth y Gwasanaeth Cudd-wybodaeth Cyfrinachol, fe wnaeth Syr John Sawers leisio cefnogaeth i honiad y Prif Weinidog na ellir cael “safleoedd gwaharddedig” ar-lein neu mewn mathau eraill o gyfathrebu.
Ychwanegodd y byddai safleoedd sy’n waharddedig i asiantaethau cudd-wybodaeth yn gwneud i bobl deimlo’n gyfforddus fod eu cyfathrebiadau’n breifat, ond byddai’r un fath yn wir am bobl sy’n ceisio “tanseilio cymdeithas”.
Mewn sesiwn holi ac ateb, dywedodd Syr John fod ymosodiad brawychol yn y DU bellach yn debygol iawn.
Dywedodd hefyd ei fod yn credu y bydd llawer o bobl fydd yn dychwelyd o ymladd yn Syria ac Irac yn falch o fod yn ôl yn y DU, ond rhybuddiodd y byddai rhai aelodau “craidd” yn fygythiad i’r DU.
Yn sgil yr ymosodiadau ym Mharis, mae David Cameron wedi dweud y byddai Llywodraeth Geidwadol newydd yn cyflwyno “deddfwriaeth gynhwysfawr” er mwyn sicrhau nad oes unrhyw “fan diogel” i derfysgwyr allu cyfathrebu dros y rhyngrwyd.
Dywedodd y Prif Weinidog fod angen i asiantaethau diogelwch a chudd-wybodaeth gael “pwerau cadarn” er mwyn amddiffyn y cyhoedd rhag eithafwyr treisgar.