Nadine Aburas
Mae dyn sy’n cael ei amau o lofruddio dynes mewn gwesty yng Nghaerdydd ar Nos Galan wedi cael ei arestio yn Tanzania.
Mae’r heddlu wedi bod yn chwilio am Sammy Almahri, 44 oed o Efrog Newydd, ar ôl dod o hyd i gorff Nadine Aburas, 28 oed, o Gaerdydd mewn ystafell wely yng ngwesty’r Future Inn tua hanner nos ar Nos Galan.
Mewn cynhadledd i’r wasg heddiw, cadarnhaodd Heddlu De Cymru bod y dyn wedi cael ei arestio gan yr heddlu yn Tanzania.
Mewn cynhadledd i’r wasg heddiw, cadarnhaodd Heddlu De Cymru bod y dyn wedi cael ei arestio gan yr heddlu yn Tanzania yn dilyn gwaith ar y cyd rhwng heddluoedd de Cymru, Efrog Newydd a Tanzania.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Paul Hurley o Heddlu De Cymru: “Fe wnaeth Almahri ffoi i Tanzania ac rydym wedi gweithio’n agos gyda’r awdurdodau lleol i ddod o hyd iddo a’i arestio.
“Mae hwn wedi bod yn ymchwiliad cymhleth sydd wedi symud yn gyflym ac yn cynnwys heddluoedd o dri chyfandir – ac rydym ni’n arbennig o ddiolchgar am y cydweithrediad proffesiynol a gawsom gan yr heddlu yn Tanzania.
“Rwyf hefyd am ddiolch i’r cymunedau yng Nghaerdydd sydd wedi darparu cymorth gwerthfawr i’n hymchwiliad yn ogystal â chefnogi teulu Nadine ar adeg anodd iawn iddyn nhw.”
Mae’r broses o estraddodi Sammy Almahri wedi dechrau, meddai’r heddlu.