Mae’r cwmni sy’n rhedeg teithiau awyren o Gaerdydd i Ynys Môn wedi cadarnhau y bydd taith newydd o Gymru yn cael ei chyhoeddi’r wythnos nesaf.

Dywedodd llefarydd ar ran LinksAir y bydd y daith yn gadael o Ynys Môn i rywle yn Lloegr, ond nid oedd yn fodlon datgelu i le ar hyn o bryd.

Yn ogystal mae’r cwmni o Doncaster wedi penodi Travel Line Cymru, sydd wedi’i leoli ym Mhorthmadog, fel y ganolfan fydd yn ateb galwadau ffôn ynglŷn â’r gwasanaeth newydd a’r rhai presennol:

“Rydym wedi penodi Travel Line Cymru fel ein canolfan alwadau newydd ac fe fydd yn arwain at greu swyddi newydd i siaradwyr Cymraeg,” meddai llefarydd ar ran LinksAir.

“Rydym hefyd yn y broses o benodi cydlynydd teithiau fydd i’w leoli ar Ynys Môn.”

Tua 9,000 o bobol sydd wedi bod yn defnyddio’r gwasanaeth hedfan o Gaerdydd i Ynys Môn yn y blynyddoedd diwethaf.