Yr heddlu ym Mharis wedi'r ymosodiadau
Bydd pedwar dyn yn y llys heddiw i wynebu cyhuddiadau rhagarweiniol ar amheuaeth o fod â chysylltiadau ag un o’r dynion fu’n rhan o’r ymosodiadau brawychol yn Ffrainc.

Dywedodd swyddfa’r erlynydd ym Mharis fod y pedwar yn cael eu hamau o roi cefnogaeth i Amedy Coulibaly.

Fe wnaeth Amedy Coulibaly saethu plismones yn farw ar gyrion Paris cyn cymryd gwystlon y tu mewn i archfarchnad Iddewig, gan ladd pedwar, cyn iddo gael ei ladd gan yr heddlu.

Nid yw’n glir os yw’r rhai fydd yn ymddangos yn y llys wedi cymryd rhan wrth gynllwynio’r ymosodiadau neu hyd yn oed yn ymwybodol o gynlluniau Coulibaly.

Bydd y pedwar dyn, sydd i gyd yn eu 20au, yn ymddangos gerbron barnwr yn ddiweddarach heddiw.

Mae pump arall a gafodd eu harestio fel rhan o’r ymchwiliad wedi eu rhyddhau heddiw.

Nid oes unrhyw un wedi cael eu cyhuddo am gymryd rhan uniongyrchol yn yr ymosodiadau a ddigwyddodd rhwng 7 a 9 Ionawr.