Gweithwyr yn safle GE Aviation
Mae cwmni sy’n cynhyrchu cydrannau ar gyfer awyrennau, GE Aviation, yn ystyried cynlluniau posib i ddiswyddo hyd at 100 o weithwyr ar ei safle yn Nantgarw, Rhondda Cynon Taf.
Dywed y cwmni Americanaidd ei fod yn gorfod cwtogi ar ei weithlu yn ne Cymru yn sgil gostyngiad yn nifer y cwsmeriaid, meddai llefarydd.
Ar hyn o bryd, mae tua 1,350 o bobol yn cael eu cyflogi ar y safle ond fe fydd GE Aviation yn ystyried lleihau hynny o “ddim mwy na 100.”
Meddai Chris Doherty o’r cwmni: “Mae’r ffigyrau ar gyfer 2015 yn dangos gostyngiad mawr yn y galw am beiriannau o’i gymharu â 2014 a 2013.
“Rydym ar hyn o bryd yn ystyried nifer o opsiynau i ddelio hefo’r gostyngiad yma.
“Os fyddwn yn parhau gyda chynllun diswyddo gwirfoddol, nid ydym yn meddwl y bydd ein gweithlu yn cael ei gwtogi o ddim mwy na 100 o weithwyr.”
Fe fydd y cwmni yn trafod hefo undeb Unite cyn pasio unrhyw gynlluniau terfynol.