Dungeness B, yng Nghaint
Mae disgwyl i atomfa niwclear yng Nghaint gael parhau am 10 mlynedd arall, meddai’r perchennog EDF Energy.
Roedd gorsaf Dungeness B yng Nghaint i fod i gau yn 2018, ond bydd yn parhau i weithredu tan 2028, yn dilyn buddsoddiad gwerth £150 miliwn.
Dechreuodd y safle, sy’n cyflogi 750 o weithwyr, gynhyrchu trydan yn 1983 ac mae’n un o wyth atomfa niwclear sy’n cael eu cynnal gan EDF.
Dywedodd EDF fod y penderfyniad i ymestyn oes yr orsaf bŵer yn dod yn sgil adolygiadau helaeth o’i achosion diogelwch a drwy weithio gyda’r Swyddfa Rheolydd Niwclear.
Dywedodd EDF fod y penderfyniad yn rhan o raglen ehangach i ymestyn oes ei holl atomfeydd niwclear yn y DU.
Dywedodd Vincent de Rivaz, prif weithredwr EDF Energy: “Bydd cwsmeriaid yn elwa o’r buddsoddiad sylweddol hwn drwy gael blynyddoedd lawer eto o drydan dibynadwy, carbon isel. ”
Dywedodd Martin Pearson, cyfarwyddwr atomfa Dungeness B: “Rydym wedi buddsoddi’n helaeth yn Dungeness er mwyn gallu parhau, yn ddiogel, am 10 mlynedd arall.
“Mae’n golygu y bydd yr atomfa yn parhau i ddarparu cannoedd o swyddi ac yn gyfle i brentisiaid ddechrau eu gyrfaoedd yn Dungeness B.”