Scottish Power yw’r diweddaraf i ostwng prisiau nwy i gwsmeriaid gan gyhoeddi heddiw y bydd prisiau’n gostwng o 4.8%.
Dywed y cwmni ynni y bydd yn golygu gostyngiad o £33 ar gyfartaledd ar filiau blynyddol cwsmeriaid.
Daw’r cyhoeddiad ddiwrnod ar ôl i Nwy Prydain gyhoeddi gostyngiad o 5% ac fe wnaeth E.ON gyhoeddi gostyngiad o 3.5% wythnos diwethaf.
Mae cwmnïau ynni wedi bod dan bwysau gan wleidyddion a rheoleiddwyr i sicrhau bod gostyngiad mewn prisiau craidd nwy yn cael eu hadlewyrchu ym miliau cwsmeriaid.