Prif hyfforddwr Cymru Warren Gatland
Mae Gareth Anscombe wedi cael ei gynnwys yng ngharfan Cymru wrth i Warren Gatland baratoi ar gyfer gêm agoriadol y Chwe Gwlad yn erbyn Lloegr ar 6 Chwefror.

Symudodd Anscombe o Seland Newydd i ymuno â’r Gleision yn yr hydref, ond fe gafodd ei fam ei geni yng Nghymru ac mae wedi dweud y byddai’n awyddus i wisgo’r crys coch.

Mae hynny’n golygu nad oes lle i’r maswyr Owen Williams o Gaerlŷr a James Hook o Gaerfaddon yn y garfan.

Enwau cyfarwydd

Heblaw am newidiadau gorfodol oherwydd anafiadau mae Gatland wedi glynu at y rhan fwyaf o’r chwaraewyr sydd wedi cynrychioli Cymru dros y deunaw mis diwethaf.

Sam Warburton fydd yn arwain y garfan o 34 chwaraewr fel capten capten unwaith eto.

Ond gydag anafiadau i Ken Owens, Rhodri Jones ac Emyr Phillips yn y rheng flaen mae hynny wedi golygu bod chwaraewyr fel Kristian Dacey a Rob Evans wedi eu cynnwys.

Does dim lle unwaith eto i’r prop Adam Jones, mae James King wedi cael ei gynnwys fel blaenasgellwr yn lle Josh Navidi, ac mae lle i’r olwyr Tyler Morgan a Hallam Amos o’r Dreigiau.

Dacey, Evans a Morgan yw’r unig ddau yn y garfan heblaw am Anscombe sydd heb ennill cap eto dros Gymru, tra bod Scott Andrews a Gareth Davies ymysg y rheiny sydd yn dychwelyd i’r garfan.

Bydd Cymru’n dechrau eu hymgyrch yn y Chwe Gwlad ar nos Wener 6 Chwefror wrth iddyn nhw wynebu’r hen elynion Lloegr yn Stadiwm y Mileniwm.

Yna fe fyddan nhw’n teithio i Gaeredin â Pharis, herio Iwerddon yng Nghaerdydd, a gorffen yn Rhufain yn erbyn yr Eidal ar 21 Mawrth.

Carfan Cymru

Blaenwyr: Gethin Jenkins (Gleision), Paul James (Caerfaddon), Rob Evans (Scarlets), Aaron Jarvis (Gweilch), Samson Lee (Scarlets), Scott Andrews (Gleision), Richard Hibbard (Caerloyw), Kristian Dacey (Gleision), Scott Baldwin (Gweilch), Alun Wyn Jones (Gweilch), Jake Ball (Scarlets), Bradley Davies (Wasps), Luke Charteris (Racing Metro), Dan Lydiate (Gweilch), James King (Gweilch), Sam Warburton (Gleision, capten), Justin Tipuric (Gweilch), Taulupe Faletau (Dreigiau).

Olwyr: Mike Phillips (Racing Metro), Rhys Webb (Gweilch), Gareth Davies (Scarlets), Dan Biggar (Gweilch), Rhys Priestland (Scarlets), Gareth Anscombe (Gleision), Cory Allen (Gleision), Jamie Roberts (Racing Metro), Jonathan Davies (Clermont Auvergne), Scott Williams (Scarlets), Tyler Morgan (Dreigiau), Hallam Amos (Dreigiau), Alex Cuthbert (Gleision), George North (Northampton), Liam Williams (Scarlets), Leigh Halfpenny (Toulon).