Warren Gatland
Fe fydd Warren Gatland yn enwi carfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad am 11.00yb heddiw.

Mae disgwyl y bydd un ai Gareth Anscombe o’r Gleision neu Owen Williams o Gaerlŷr yn cael eu dewis fel y trydydd maswr yn y garfan gyda Dan Biggar a Rhys Priestland.

Byddai hynny’n golygu dim lle i James Hook, y cefnwr amryddawn sydd â 77 o gapiau dros ei wlad.

Anafiadau i’r blaenwyr

Does dim disgwyl i Gatland wneud newidiadau mawr i’r garfan gyda Chwpan y Byd dim ond 10 mis i ffwrdd.

Ond fe fydd ambell chwaraewr llai profiadol ymysg y blaenwyr, yn enwedig yn safle’r bachwr, gan fod Ken Owens, Emyr Phillips a Rhodri Jones o’r Scarlets i gyd wedi anafu.

Fe allai hynny weld Adam Jones yn dychwelyd i’r garfan, ar ôl i brop y Gleision gael ei adael allan ar gyfer gemau’r hydref.

Ymysg y chwaraewyr eraill fydd yn gobeithio bachu lle yn y garfan mae blaenwyr rheng ôl y Gleision Josh Navidi a Josh Turnbull ac olwyr y Dreigiau Hallam Amos a Tyler Morgan.

Bydd Cymru’n dechrau eu hymgyrch yn y Chwe Gwlad ar nos Wener 6 Chwefror wrth iddyn nhw wynebu’r hen elynion Lloegr yn Stadiwm y Mileniwm.

Yna fe fyddan nhw’n teithio i Gaeredin â Pharis, herio Iwerddon yng Nghaerdydd, a gorffen yn Rhufain yn erbyn yr Eidal ar 21 Mawrth.