Gareth Bale
Er gwaethaf y sïon yn y papurau newydd fod Man United yn ystyried gwneud cynnig am y Cymro Gareth Bale, dyw hi ddim yn ymddangos fel bod cefnogwyr y clwb yn rhannu’r un brwdfrydedd.
Y sôn diweddaraf yw y gallai’r clwb o Fanceinion gynnig eu golwr David de Gea yn ogystal ag arian ychwanegol er mwyn denu Bale o Real Madrid.
Ond yn ôl pôl piniwn ar dudalen Facebook Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Manchester United fe ddywedodd “dros 99%” o gefnogwyr y Red Devils y byddai’n well ganddyn nhw weld De Gea yn aros nag arwyddo’r Cymro.
Mae’n debyg bod dros 600 o gefnogwyr wedi pleidleisio yn y pôl, gan awgrymu’n gryf eu bod nhw’n credu mai’r flaenoriaeth oedd cadw De Gea allan o afael Real Madrid yn hytrach nag arwyddo sêr newydd.
Chwaraewr drytaf y byd
Daeth Bale yn chwaraewr drytaf y byd pan symudodd o Spurs i Real Madrid yn ystod haf 2013 am ffi o £85m.
Ers hynny mae wedi disgleirio ym mhrifddinas Sbaen ac fe sgoriodd 22 gôl y tymor diwethaf gan gynnwys goliau i ennill y Copa del Rey a Chwpan Pencampwyr Ewrop.
Mae wedi parhau i wneud yn dda’r tymor hwn gan rwydo 13 gwaith i’w glwb yn ogystal â dwywaith i Gymru yn erbyn Andorra ym mis Medi.
Ond mae pencampwyr Ewrop yn adnabyddus fel clwb sydd yn hoff o brynu – a gwerthu – chwaraewyr drudfawr bob blwyddyn a Cristiano Ronaldo, nid Bale, yw prif seren y Bernabeu o hyd.
Mae’n bosib felly y bydd y straeon am ddyfodol Bale yn parhau dros y misoedd nesaf, yn enwedig o gofio y byddai’r rhan fwyaf o glybiau mawr Ewrop yn ysu i geisio arwyddo’r ymosodwr petai ar gael.