Neil Taylor
Mae disgwyl y bydd Crystal Palace yn gwneud ail gynnig o £4.5m am amddiffynnwr Abertawe a Chymru Neil Taylor ar ôl i’r Elyrch wrthod cynnig o £3m.

Mae’r clwb o Lundain yn awyddus i gryfhau yn safle’r cefnwr chwith, ac yn ôl y Guardian fe fyddan nhw’n gwella ar eu cynnig cyntaf i Abertawe’r wythnos hon.

Yn ôl y sôn mae Abertawe hefyd wedi gwneud cynnig o tua £4m am amddiffynnwr Norwich Martin Olsson, allai gymryd lle Taylor petai’n gadael.

Symud o’r Liberty?

Dyw Neil Taylor heb awgrymu ei fod yn awyddus i symud o Abertawe yn ystod y misoedd diwethaf ar ôl iddo ennill ei le nôl yn y tîm.

Tymor diwethaf roedd Taylor yn ail ddewis fel cefnwr chwith y tu ôl i Ben Davies, cyn i’r Cymro arall symud i Spurs dros yr haf.

Ond fe allai ail gynnig Crystal Palace berswadio Abertawe i’w werthu, yn enwedig os ydyn nhw’n paratoi i ddod ag Olsson mewn yn ei le.

Mae gan Taylor 18 mis ar ôl ar ei gytundeb felly os nad yw Abertawe yn bwriadu ymestyn y cytundeb hwnnw fe fyddai’n gwneud synnwyr iddyn nhw ei werthu ym mis Ionawr neu yn yr haf.

Byddai Wrecsam hefyd yn elwa petai Taylor yn gadael Abertawe, diolch i gymal yn y cytundeb pan symudodd yr amddiffynnwr o glwb y gogledd ddwyrain yn 2010.

Mae’n debyg y byddai Wrecsam yn derbyn 10-15% o unrhyw ffi sydd yn cael ei dalu am Taylor, felly mae’n bosib y gallai’r clwb dderbyn rhyw £500,000 petai’r chwaraewr yn symud i Palace.