Adam Jones
Mae prop Cymru a’r Gleision Adam Jones wedi cael ei wahardd rhag gyrru am chwe mis wedi iddo gael ei ddal yn goryrru.

Dywedodd y chwaraewr 33 mlwydd oed, sy’n byw ym Merthyr Tudful, wrth Lys Ynadon Caerdydd ei fod ar ei ffordd i drio siwt ar gyfer priodas pan gafodd ei ddal yn ei Mercedes E220.

Roedd y camera cyflymder wedi ei ddal yn gwneud 36 milltir yr awr mewn parth 30 milltir yr awr ar y A4109 ger Glyn-nedd.

Roedd ganddo naw pwynt ar ei drwydded yn barod.