Fe fydd y blaenasgellwr Nick Croswell yn ymuno â’r Dreigiau ym mis Chwefror ar ôl i’r rhanbarth gadarnhau ei fod wedi arwyddo cytundeb hir dymor.

Ar hyn o bryd mae’r chwaraewr 28 oed yn gapten ar dîm y Manawatu Turbos, ac mae hefyd wedi chwarae dros y Chiefs, Highlanders a’r Hurricanes yn y gynghrair Super Rugby.

Yn y gorffennol mae Crosswell hefyd wedi chwarae i’r Maori All Blacks, tîm o chwaraewyr o dras Maori sydd yn cynrychioli Seland Newydd yn rhyngwladol.

Wrth gyhoeddi’r trosglwyddiad heddiw fe ddywedodd cyfarwyddwr rygbi’r Dreigiau Lyn Jones fod gan Crosswell y math o bersonoliaeth yr oedd ei angen ar y tîm.

“Mae Nick yn chwaraewr Super Rugby profiadol ac mae ganddo’r math o bersonoliaeth a’r arweiniad sydd angen arnom yn Rodney Parade,” meddai Lyn Jones.

“Gyda rhagor o ddyfnder yn ein carfan, fe allwn ni berfformio i lefel uwch yn fwy cyson o wythnos i wythnos – mae arwyddo Nick yn dangos gweledigaeth y Bwrdd o fod eisiau rhagor o lwyddiant ar y cae.”