Rhys Williams
Roedd dau o brif athletwyr Cymru, Gareth Warburton a Rhys Williams, “ar fai neu’n esgeulus” am beidio gwneud yn siŵr fod y diodydd yr oedden nhw’n ei yfed ddim yn cynnwys sylweddau gwaharddedig, meddai adroddiad swyddogol gan y corff gwrthgyffuriau UKAD (UK Anti-Doping).

Methodd y ddau brawf cyffuriau cyn Gemau’r Gymanwlad yng Nglasgow haf diwethaf.

Cafodd Gareth Warburton ei wahardd am chwe mis, tra bod Rhys Williams wedi’i wahardd am bedwar mis.

Ond penderfynodd yr awdurdodau nad oedden nhw’n sylweddoli eu bod nhw wedi cymryd y cyffuriau.

Mae gwaharddiadau’r ddau eisoes wedi dod i ben.

Yn ôl adroddiadau, roedd y ddau wedi cymryd sylwedd Mountain Fuel Xtreme Energy, oedd yn cynnwys steroid sydd wedi’i wahardd.

Mae’r cwmni’n gwadu bod y sylwedd yn eu diodydd.