James Chester
Mae’n bosib y bydd yr amddiffynnwr James Chester yn methu gêm ragbrofol Ewro 2016 Cymru yn erbyn Israel ym mis Mawrth ar ôl iddo ddatgymalu ei ysgwydd.

Cafodd Chester yr anaf ddoe mewn gêm rhwng Hull a West Ham, wrth i James Collins – un arall o amddiffynwyr Cymru – lanio ar ei ben.

Dywedodd Hull heddiw eu bod yn disgwyl i’r amddiffynnwr canol fod allan wyth i ddeg wythnos, ac fe fydd felly’n wynebu ras yn erbyn amser i fod yn ffit i wynebu Israel ar 28 Mawrth.

Llawdriniaeth

Fe gadarnhaodd y clwb ddoe y byddai’n rhaid i Chester gael llawdriniaeth i wella’r anaf i’w ysgwydd ar ôl y gwymp gyda Collins.

Bydd hynny’n golygu cyfnod o fisoedd allan o’r tîm wrth iddo wella, a hynny wrth i Hull geisio brwydro i aros yn yr Uwch Gynghrair.

Fe fydd rheolwr Cymru Chris Coleman hefyd yn cadw llygad ar wellhad Chester, gan fod Cymru’n herio Israel yn eu gêm ragbrofol Ewro 2016 mewn llai na deg wythnos.

Cafodd James Collins ac Ashley Williams, dau amddiffynnwr arall Cymru, eu hanafu ar y penwythnos hefyd ond mae’n debyg bod eu hanafiadau nhw ddim mor ddifrifol.

Canol yr amddiffyn

James Chester sydd wedi chwarae ochr yn ochr ag Ashley Williams yn ystod pob gêm o ymgyrch ragbrofol Ewro 2016 hyd yn hyn.

Mae’r tîm yn ail yn eu grŵp ar hyn o bryd ar ôl buddugoliaethau dros Andorra a Chyprus, a gemau cyfartal di-sgôr yn erbyn Bosnia a Gwlad Belg ble cafodd yr amddiffyn glod mawr.

Bydd y gêm nesaf yn frwydr rhwng y ddau dîm sydd ar frig y grŵp, gan fod Israel wedi ennill eu tair gêm hyd yn hyn.

Os nad yw Chester yn holliach erbyn hynny, mae’n debygol mai James Collins fydd yn llenwi ei esgidiau yng nghanol yr amddiffyn.

Ond fe allai Coleman hefyd droi at chwaraewr Newcastle Paul Dummett, sydd fel arfer yn amddiffynnwr chwith ond wedi bod yn chwarae yn y canol i’w glwb yn ddiweddar.