Bafetimbi Gomis
Mae Bafetimbi Gomis wedi cyfaddef ei fod yn ystyried ei ddyfodol gyda chlwb pêl-droed Abertawe, er gwaethaf ymadawiad yr ymosodwr Wilfried Bony.

Ymunodd yr ymosodwr Bafetimbi Gomis â’r clwb o Lyon yr haf diwethaf, ond mae wedi lleisio rhwystredigaeth dros gyn lleied o gemau mae o wedi chwarae yn ystod hanner cyntaf y tymor.

Gyda Wilfried Bony yn gadael am Manchester City, dylai Gomis gael fwy o gyfle i chwarae ond mae’n teimlo fod yr Elyrch wedi ei siomi ac mae’n ystyried ei opsiynau.

Roedd yn siarad gyda’r sianel deledu o Ffrainc Canal Plus pan ddatgelodd ei fod wedi cael cadarnhad gan Abertawe, pan arwyddodd â’r clwb, y byddai’n chwarae mewn nifer penodol o gemau – ond fod hynny heb ddigwydd.

Meddai Bafetimbi Gomis: “Dw i eisiau chwarae mewn nifer penodol o gemau. Heddiw, rwy’n gofyn llawer o gwestiynau i mi fy hun. Dw i angen amser i feddwl. Yn fy oed i, mae’n anodd treulio fy amser yn eistedd ar y fainc.”

Dywedodd Gomis – sydd wedi gwneud 19 o ymddangosiadau yn y gynghrair i Abertawe, gyda 13 ohonynt fel eilydd – ei fod ef a’i gynrychiolwyr yn bwriadu cynnal trafodaethau gyda’r clwb cyn gwneud unrhyw benderfyniad.

Ond ychwanegodd y chwaraewr 29 mlwydd oed na fyddai’n hawdd ei berswadio i aros os yw’n teimlo bod addewidion wedi cael eu torri’n barod.