George North yn carlamu am gais yn erbyn Gweilch (llun: David Davies/PA)
Roedd hi’n benwythnos da iawn ar y cyfan i’r Cymry oddi Cartref wrth i bron pob un ohonyn nhw ennill gyda’u clybiau yn eu gemau Ewropeaidd.

Ta-ta oedd hi i obeithion y Gweilch o gyrraedd y rownd nesaf wrth i Northampton gipio’r pwyntiau yn Stadiwm y Liberty gyda buddugoliaeth o 9-20, a George North yn sgorio ail gais ei dîm.

Yng ngêm arall Grŵp 5 fe chwaraeodd Luke Charteris a Mike Phillips wrth i Racing Metro ennill yn gyfforddus o 53-7 yn erbyn Treviso.

Cadwodd Caerfaddon eu gobeithion o gyrraedd rownd yr wyth olaf yn fyw gyda buddugoliaeth syfrdanol o 35-18 i ffwrdd yn Toulouse sydd ar frig Grŵp 4, gyda Paul James a Dominic Day yn y pac buddugol.

Ciciodd Leigh Halfpenny 18 o bwyntiau wrth i Toulon roi crasfa i Ulster yng Ngrŵp 3, ond ei gydchwaraewyr rannodd y ceisiau rhyngddyn nhw wrth i’r tîm cartref dirio wyth gwaith.

Daeth ymgyrch y Scarlets yn Ewrop i ben wrth iddyn nhw golli 40-23 i Gaerlŷr yng ngêm arall Grŵp 3, gydag Owen Williams yn dod oddi ar y fainc i wynebu ei gyn-glwb a throsi un cais.

Yng Ngrŵp 1 fe arhosodd Jonathan Davies a Clermont ar y brig gyda buddugoliaeth o 13-22 dros dîm Sale oedd yn cynnwys Marc Jones, Jonathan Mills, Eifion Lewis-Roberts a Nick Macleod.

Cadwodd Wasps eu gobeithion nhw o gyrraedd y rownd nesaf yn fyw gyda buddugoliaeth o 23-3 dros Harlequins yng Ngrŵp 2, gyda Bradley Davies ac Ed Shervington yn y tîm buddugol.

Cwpan Her Ewrop

Sicrhaodd Caerwysg eu lle yn rownd nesaf Cwpan Her Ewrop gyda buddugoliaeth o 33-24 dros Connacht yng Ngrŵp 2, gyda Phil Dollman yn dechrau fel cefnwr iddyn nhw.

Cafwyd gwledd o geisiau yng Ngrŵp Un – ar ôl i’r Gleision ennill 104-12 yn erbyn Rovigo nos Wener, cafwyd gêm llawer agosach dydd Sadwrn wrth i Wyddelod Llundain drechu Grenoble 43-41.

Gwelwyd cyfanswm o ddeg cais yn y Madejski, chwech i’r Gwyddelod a phedair i Grenoble, ac Andy Fenby yn sgorio cais hwyr i gipio’r fuddugoliaeth i’r tîm cartref.

Enillodd Caerloyw eu pumed gêm yng Ngrŵp 5 wrth drechu Oyonnax o 33-3 gyda thîm oedd yn cynnwys James Hook a Richard Hibbard, ac yng ngêm arall y grŵp colli 23-13 i Zebre wnaeth Kieran Murphy a Brive.

Colli oedd hanes Cymry Llundain hefyd yng Ngrŵp 4, gyda Rob Lewis a James Lewis yn dechrau wrth i Bordeaux gipio’r fuddugoliaeth o 26-3.

Seren yr wythnos – George North. Ei bumed cais yn erbyn y Gweilch y tymor hwn mwy neu lai yn sicrhau lle Northampton  yn y rownd nesaf.

Siom yr wythnos – Rob Lewis. Bron pob un o’r Cymry oddi Cartref yn ennill yn Ewrop, ond Cymry Llundain yn parhau heb bwynt o gwbl yn eu grŵp.