James Chester yn dod oddi ar y cae ar ôl anafu ei ysgwydd ddoe (llun: Adam Davy/PA)
Mae hi wedi dechrau yn barod – dros ddeufis i fynd tan gêm ryngwladol nesaf Cymru, ac mae un o’r prif chwaraewyr eisoes mewn peryg o beidio â bod yno i wynebu Israel.

Yn ystod y gêm rhwng West Ham a Hull ddoe fe laniodd James Chester yn drwsgl a datgymalu ei ysgwydd – ar ôl i neb llai nag amddiffynnwr arall Cymru, James Collins, lanio ar ei ben.

Bydd yn rhaid i Chester gael llawdriniaeth i’w ysgwydd, ac fe allai hynny ei gadw allan am ryw dri mis.

Ennill 3-0 wnaeth West Ham yn y cyfamser, ond er iddo chwarae’n dda yn yr hanner cyntaf wnaeth Collins ddim para’r gêm gyfan chwaith ar ôl gorfod dod oddi ar y cae ag anaf.

Yng ngêm arall yr Uwch Gynghrair dydd Sul llwyddodd Arsenal i gipio buddugoliaeth annisgwyl o 2-0 i ffwrdd yn erbyn Man City, gydag Aaron Ramsey nôl yn y tîm  ac yn chwarae 84 munud.

Roedd hi’n brynhawn dydd Sadwrn trychinebus i amddiffyn Abertawe oedd yn cynnwys Ashley Williams a Neil Taylor, wrth iddyn nhw gael eu maeddu 5-0 gan Chelsea.

Cipiodd Joe Ledley a Crystal Palace fuddugoliaeth allweddol o 3-2 yn Burnley yn y frwydr ar waelod y gynghrair, wrth i Sam Vokes gael ugain munud arall ar y cae i’r tîm cartref.

Chwaraeodd Andy King gêm lawn i Gaerlŷr wrth iddyn nhw golli 1-0 gartref i Stoke, a cholli oedd hanes Paul Dummett a Newcastle hefyd o 2-1 yn erbyn Southampton.

Cafodd Gareth Bale benwythnos gwell yng nghrys Real Madrid fodd bynnag gan rwydo’r ail gôl wrth i’w dîm ennill 3-0 yn erbyn Getafe – dim syndod mai Ronaldo gafodd y ddwy arall!

Y Bencampwriaeth

Yn y Bencampwriaeth fe sgoriodd Dave Edwards gôl hwyr i Wolves er mwyn cipio buddugoliaeth yn erbyn Blackpool, gan ychwanegu at y ddwy a sgoriodd nos Fawrth yng Nghwpan FA.

Colli wnaeth Chris Gunter a Hal Robson-Kanu gyda Reading wrth i Fulham ennill y frwydr rhwng y ddau dîm yng ngwaelodion y tabl o 2-1.

Llwyddodd Craig Davies a Bolton i gipio buddugoliaeth o 2-1 dros Sheffield Wednesday, er na sgoriodd y Cymro.

Daeth Emyr Huws oddi ar y fainc i Wigan yn ystod eu gêm gyfartal nhw gyda Blackburn – y tro cyntaf iddo chwarae ers i Malky Mackay gael ei benodi’n rheolwr.

Ac yng ngemau eraill y gynghrair colli oedd hanes timau Joel Lynch, Craig Morgan, Declan John, Rhoys Wiggins a Simon Church.

Yn yr Alban fe sgoriodd Adam Matthews gôl agoriadol Celtic wrth iddyn nhw drechu Hamilton 2-0, tra bod Ash Taylor wedi chwarae awr i Inverness.

Ac yng Nghynghrair Un fe chwaraeodd Tom Bradshaw, Lewin Nyatanga, Gwion Edwards, Joe Walsh, James Wilson a Chris Maxwell.

Seren yr wythnos – Dave Edwards. Tair gôl mewn wythnos i Wolves, ac yn dangos ei fod yn ddigon o fygythiad o ganol cae.

Siom yr wythnos – James Chester. Anaf cas yr olwg, ac mae gan Chris Coleman ddeufis nerfus o eistedd wrth y ffôn.