Gweilch 9–20 Northampton
Roedd George North a gweddill tîm Northampton rhy dda i’r Gweilch wrth i’r ddau dîm gwrdd ar y Liberty yng ngrŵp 5 Cwpan Pencampwyr Ewrop.
Nid oedd North na’i dîm mor ddinistrol ag yr oeddynt yn y gêm gyfatebol ar Erddi Frankilin ond gwnaethant ddigon i drechu’r Cymry.
Er i Dan Biggar gicio’r Gweilch ar y blaen, blaenasgellwr yr ymwelwyr, Calum Clark, a groesodd am gais cyntaf y gêm wedi chwarter awr ar ôl i gic Rhys Webb gael ei tharo i lawr, 3-7 wedi trosiad Steve Myler.
Cyfnewidiodd Biggar a Myler gic gosb yr un wedi hynny wrth i’r gêm barhau’n agos yn yr hanner awr cyntaf.
Caeodd Biggar y bwlch i bwynt wedi hynny gyda’i drydedd gic gosb yn dilyn tacl wael gan George Pisi, trosedd a arweiniodd at gerdyn melyn i asgellwr Northampton.
Pedwar dyn ar ddeg yr ymwelwyr a gafodd y cais nesaf serch hynny ym munudau olaf yr hanner wrth i George North, pwy arall, redeg o’r llinell hanner yn dilyn camgymeriad gan Justin Tipuric, 9-17 y sgôr ar yr egwyl yn dilyn trosiad Myler.
Nid oedd yr ail hanner cystal ac un cic gosb gan Myler oedd unig bwyntiau’r ail ddeugain munud.
Mae’r canlyniad yn cadw’r Gweilch yn drydydd yng ngrŵp 5 ond mae buddugoliaeth swmpus Racing Metro yn erbyn Treviso yn eu codi hwy dros Northampton i frig y tabl.
.
Gweilch
Ciciau Cosb: Dan Biggar 9’, 20’, 34’
.
Northampton
Ceisiau: Calum Clark 16’, Geroge North 39’
Trosiadau: Steve Myler 16’, 39’
Ciciau Cosb: Steve Myler 26’, 68’
Cerdyn Melyn: George Pisi 32’