Port Talbot 4–3 Y Bala

Sicrhaodd Port Talbot eu lle yn hanner uchaf Uwch Gynghrair Cymru wrth i’r tabl hollti gyda buddugoliaeth mewn gêm gyffrous ar y GenQuip brynhawn Sul.

Y tîm sy’n drydydd, Y Bala, oedd yr ymwelwyr ond llwyddodd Port Talbot i sicrhau’r tri phwynt gyda goliau Martin Rose(2), Chad Bond a Corey Thomas.

Dylai’r ddau dîm arall oedd yn brwydro am y ddau le olaf yn y chwech uchaf fod wedi chwarae ddydd Sul hefyd ond cafodd gemau Caerfyrddin yn erbyn y Seintiau Newydd a’r Drenewydd yn erbyn Cei Connah eu gohirio oherwydd y tywydd.

Hanner Cyntaf

Dau funud yn unig oedd ar y cloc pan rwydodd Rose y gôl agoriadol gyda pheniad rhydd o groesiad hyfryd Corey Thomas.

Bu bron i’r Bala unioni’n syth wrth i groesiad Mark Connolly anelu am y gornel uchaf ond daeth y trawst i achub y Gwŷr Dur.

Digon cyfartal oedd gweddill yr hanner ond prin oedd cyfleoedd da yn y ddau ben, tan y munud olaf hynny yw, pan wastraffodd Lee Hunt ac Ian Sheridan gyfleoedd da o chwe llath i’r Bala.

Ail Hanner

Dyblodd Bond y fanatis yn gynnar yn ar ail gyfnod, cafodd cic rydd hir ei phenio ymlaen gan Rose ac roedd Bond wrth law i orffen ar yr hanner foli.

Wnaeth y Bala ddim deffro mewn gwirionedd tan chwarter olaf y gêm wedi i Mark Jones ddod i’r cae fel eilydd. Creodd cyn chwaraewr Wrecsam gôl i Lee Hunt gydag ychydig dros ugain munud i fynd.

Yna, unionodd Connolly bethau ddeuddeg munud o ddiwedd y naw deg wedi i gynnig Kieran Smith gael ei glirio oddi ar y llinell gan James Parry.

Ond roedd y Bala’n gyfartal am lai na dau funud gan i Corey Thomas adfer mantais y tîm cartref gydag ergyd dda o ugain llath.

Yna, ddau funud yn ddiweddarach roedd y pwyntiau fwy neu lai yn ddiogel wedi i Rose ruthro at y postyn agosaf i droi croesiad Luke Bowen i’r gornel isaf.

Roedd diweddglo dramatig i ddilyn wedi i Mark Jones dynnu un yn ôl i’r Bala eto gyda chynnig gwych o ochr y cwrt cosbi ond daliodd Port Talbot eu gafael tan y diwedd.

Y Tabl

Mae’r cnlyniad yn rhoi Port Talbot yn bumed yn y tabl gyda 33 pwynt wedi 22 gêm. Mae hynny’n ddigon i sicrhau eu lle hwy yn yr hanner uchaf am weddill y tymor a chawn wybod pwy fydd yn ymuno â hwy ganol wythnos pan fydd Caerfyrddin yn teithio i Neuadd y Parc a’r Drenewydd i Stadiwm Glannau Dyfrdwy.

Mae’r Bala ar y llaw arall yn aros yn drydydd, bwynt y tu ôl i Aberystwyth sydd yn ail.

.
Port Talbot
Tîm:
Cann, Corey Thomas, Sheehan, Surman, Parry, Evans, Bond, Bowen, McCreesh, Jones (Casey Thomas85’), Rose
Goliau: Rose 2’, 82’ Bond, 53’, Corey Thomas 80’
Cardiau Melyn: Evans 36’, Bowen 90’
.
Y Bala
Tîm:
Morris, Valentine, Artell (Jones 63’), Bell, S. Smith, Murtagh, Pearson, K. Smith, Connolly, Sheridan, Hunt
Goliau: Hunt 67’, Connolly 79’, Jones 88’
Cardiau Melyn: David Artell 36’, K. Smith 53’
.
Torf: 287