Ched Evans
Gallai’r ddynes a gafodd ei threisio gan y pêl-droediwr Ched Evans orfod ail-gyflwyno tystiolaeth yn ei erbyn, yn ôl adroddiadau yn y Daily Mirror heddiw.

Cafodd Evans ei ryddhau ym mis Hydref yn dilyn dwy flynedd a hanner dan glo am dreisio’r dynes mewn gwesty yng ngogledd Cymru.

Cafodd yr achos ei gyfeirio i’r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol ym mis Gorffennaf, ac mae’n bosib y gallai swyddogion ofyn am ganiatâd i gyfweld â’r ddynes unwaith eto.

Ers y digwyddiad, fe fu’n rhaid i’r ddynes newid ei henw a symud allan o ogledd Cymru.

Mae Evans yn parhau i fynnu ei fod yn ddieuog.

Yn ôl y Daily Mirror, mae’r Comisiwn wedi gwrthod gwneud sylw am y mater.