Mae gôl-geidwad Abertawe, Lukasz Fabianski wedi dweud bod dechreuad araf i’r gêm wedi costio’n ddrud i’w dîm yn erbyn Chelsea yn Stadiwm Liberty ddoe.
Collodd yr Elyrch o 5-0 yn dilyn gôl gan Oscar ar ôl 49 eiliad.
Dyblodd Chelsea eu mantais ar ôl 20 munud wrth i Diego Costa ddarganfod cefn y rhwyd.
Ychwanegodd yr ymwelwyr ddwy gôl arall cyn yr hanner, ac roedd yr ornest ar ben i bob pwrpas gyda’r Elyrch ar ei hôl hi o 4-0.
Yr eilydd Andre Schurrle sgoriodd bumed gôl yr ymwelwyr i gwblhau’r golled waethaf i’r Elyrch ers i Lerpwl eu trechu o’r un sgôr yn 2013.
Dywedodd Lukasz Fabianski wrth wefan yr Elyrch: “O’r dechrau’n deg fe wnaethon ni adael iddyn nhw reoli’r gêm.
“Roedd hi’n ddechreuad siomedig iawn i ni ac fe roddodd fantais anferth i Chelsea. Roedd popeth wnaethon nhw’n berffaith.
“Ry’n ni wedi chwarae’n solet mor belled y tymor hwn ac ar ôl y gôl gyntaf, fe wnaethon ni chwalu.
“Doedden ni’n methu dal ein gafael ar y gêm ac fe fanteision nhw’n llawn.”
Cefnogaeth
Er y perfformiad siomedig, roedd Fabianski yn awyddus i dalu teyrnged i’r cefnogwyr.
“Roedd y ffordd y gwnaeth y cefnogwyr ymateb i ni yn ystod y gêm yn galonogol iawn – fe ddangoson nhw eu bod nhw’r tu cefn i ni beth bynnag fo’r canlyniad.
“Mae hynny’n dangos gwir gefnogaeth i’r clwb hwn.
“Mae arnon ni ddyled i’r ffans i ddod nôl o hyn ar unwaith.”
Bydd yr Elyrch yn herio Blackburn Rovers yn eu gêm nesaf yng Nghwpan yr FA ym Mharc Ewood ar Ionawr 24.