Gareth Warburton
Roedd dau o brif athletwyr Cymru, Gareth Warburton a Rhys Williams wedi cael eu gwahardd rhag cystadlu am gymryd cyffuriau, yn ôl y Sunday Times.

Methodd y ddau brofion cyffuriau cyn Gemau’r Gymanwlad yn Glasgow haf diwethaf.

Mae Warburton wedi’i wahardd am chwe mis, tra bod Williams wedi’i wahardd am bedwar mis.

Ond penderfynodd yr awdurdodau nad oedden nhw’n sylweddoli eu bod nhw wedi cymryd y cyffuriau.

Mae gwaharddiadau’r ddau eisoes wedi dod i ben.

Yn ôl adroddiadau, roedd y ddau wedi cymryd sylwedd Mountain Fuel Xtreme Energy, oedd yn cynnwys steroid sydd wedi’i wahardd.

Mae’r cwmni’n gwadu bod y sylwedd yn eu diodydd.