Wrecsam 0–4 Telford

Cafodd deg dyn Wrecsam eu trechu gan Telford, y tîm sydd ar waelod y Gyngres, ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn.

Roedd y Dreigiau ddwy gôl ar ei hôl hi hyd yn oed cyn i Connor Jennings dderbyn cerdyn coch, ac aeth pethau o ddrwg i waeth wedyn wrth i’r ymwelwyr ychwanegu dwy gôl arall at y sgôr.

Dau funud yn unig oedd ar y cloc pan roddodd Sam Smith Telford ar y blaen gydag ergyd isel dda o du allan i’r cwrt cosbi.

Dyblodd Tony Gray y fantais wedi wyth munud pan beniodd groesiad John Disney i gefn y rhwyd.

Tacl hwyr ar Godfrey Poku oedd trosedd Jennings wedi hanner awr ac roedd hi’n haeddu coch yn ôl y dyfarnwr.

Gwnaeth Gray hi’n dair toc cyn yr awr gyda gôl dda arall a chwblhaodd Neill Byrne y sgorio gyda pheiad rhydd ddeunaw munud o’r diwedd.

Mae’r canlyniad y gadael Wrecsam yn yr unfed safle ar bymtheg yn nhabl Cyngres Vanarama, ddeg pwynt o’r safleoedd ail gyfle a deg pwynt o safleoedd y gwymp.
.
Wrecsam
Tîm:
Coughlin, Carrington, Smith, White (Waterfall 46′), Ashton, York (Tomassen 46′), Harris, Evans (Clarke 71′), Jennings, Moult, Bishop
Cardiau Melyn: White 6’, Smith 15’
Cerdyn Coch: Jennings 31’
.
Telford
Tîm:
Hall, Disney, Byrne, Grogan, McLaughlin, Farrell, Todd (Owens 74′), Poku, Rea, Smith (Cooke 81′), Gray (Dixon 84′)
Goliau: Smith 2’, Gray 8’, 58’, Byrne 73’
Cerdyn Melyn: Todd 62’
.
Torf: 3,194