Caergrawnt 4–0 Casnewydd

Daeth y rhediad a oedd wedi codi Casnewydd i’r trydydd safle yn nhabl yr Ail Adran i ben yn Stadiwm Abbey brynhawn Sadwrn wrth i’r tîm cartref, Caergrawnt, ennill yn gyfforddus.

Roedd Cameron McGeehan eisoes wedi taro’r trawst cyn iddo agor y sgorio wedi deuddeg munud, a gwnaeth Sullay Kaikai hi’n ddwy ddau funud cyn yr egwyl gyda chynnig da o ochr y cwrt cosbi.

Gwyrodd McGeehan groesiad Ryan Donaldson i gefn y rhwyd toc wedi’r awr ar gyfer ei ail gôl ef a thrydedd ei dîm.

Ac roedd y pwyntiau’n ddiogel wedi i Liam Hughes rwydo’r bedwaredd ddeuddeg munud o’r diwedd, a hynny ar yr ail gynnig wedi i’w ergyd gyntaf ddod yn ôl oddi ar y postyn.

Bu rhaid i Joe Day yn y gôl i Gasnewydd fod yn effro i atal Caergrawnt rhag ychwanegu mwy at eu cyfanswm wrth i’r tîm o Gymru golli am y tro cyntaf mewn pump gêm.

O ganlyniad, mae tîm Justin Edinburgh yn disgyn o’r trydydd i’r pumed safle yn nhabl yr Ail Adran.
.
Caergrawnt
Tîm:
Dunn, Tait, Nelson, Coulson, Taylor, Hughes, Champion, McGeehan, Donaldson (Dunk 67′), Elliott (Bird 71′), Kaikai (Chiedozie 81′)
Goliau: McGeehan 12’, 64’, Kaikai 43’, Hughes 79’
Cerdyn Melyn: Chiedozie 90’
.
Casnewydd
Tîm:
Day, Yakubu, Poole, Jones, Jackson, Chapman (Porter 78′), Minshull (Klukowski 61′), Byrne, Sandell (Parker 64′), O’Connor, Zebroski
Cardiau Melyn: Zebroski 14’, Jackson 28’, O’Connor 45’
.
Torf: 6,076