Newcastle 29–40 Dreigiau
Sicrhaodd y Dreigiau eu lle yn wyth olaf Cwpan Her Ewrop gyda buddugoliaeth dda yn erbyn Newcastle oddi cartref ar Barc Kingston brynhawn Sadwrn.
Sgoriodd y Cymry bump cais yn yr hanner cyntaf ac er i Newcastle wneud gêm ohoni yn yr ail hanner mae buddugoliaeth a phwynt bonws y Dreigiau yn golygu na all Newcastle eu dal ar frig grŵp 3 bellach oherwydd record benben y ddau dîm.
Er mai’r maswr cartref, Tom Catterick, a giciodd bwyntiau cyntaf y gêm, doedd gan yr Hebogiaid ddim ymateb wrth i’r Dreigiau groesi am bump cais rhwng hynny a hanner amser.
Tiriodd y canolwr, Tyler Morgan, a’r asgellwr, Hallam Amos ynghyd â’r ddau glo, Andrew Coombs a Rynard Landman, ac fe ddyfarnwyd cais cosb i’r ymwelwyr hefyd. Trosodd Tom Prydie bump allan o bump, 3-35 y sgôr ar hanner amser.
Roedd Newcastle yn well wedi’r egwyl a rhoddodd ceisiau Juan Pablo Socino a Chris Harris lygedyn o obaith iddynt.
Diffoddwyd y fflam honno gan ail gais Amos toc cyn yr awr er i Newcastle orffen y gêm yn gryf hefyd.
Croesodd William Welch am drydydd cais y tîm cartref ac yna, Andy Saull, am y pedwerydd.
Fe allai’r pwynt bonws hwnnw i Newcastle fod wedi gwneud pethau’n anodd i’r Dreigiau’r wythnos nesaf ond mae sgôr cyfartalog y Dreigiau yn well na Newcastle dros ddwy gêm felly fydd dim ots os yw’r Saeson yn eu dal ar benwythnos olaf y gemau grŵp.
.
Newcastle
Ceisiau: Juan Pablo Socino 44’, Chris Harris 52’, William Welch 66’, Andy Saull 73’
Trosiadau: Tom Catterick 45’, 53’, 67’
Ciciau Cosb: Tom Catterick 4’
.
Dreigiau
Ceisiau: Tyler Morgan 7’, Cais Cosb 19’, Andrew Coombs 22’, Hallam Amos 26’, 59’, Rynard Landman 29’
Trosiadau: Tom Prydie 8’, 20’, 22’, 27’, 30’