Norwich 3–2 Caerdydd
Rhoddodd Caerdydd fynydd rhy serth i’w hunain ddringo wrth golli yn erbyn Norwich ar Ffordd Carrow yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.
Roedd yr Adar Gleision dair gôl ar ei hôl hi ar hanner amser, ac er iddynt frwydro nôl yn yr ail gyfnod doedd dwy gôl ddim yn ddigon.
Peniodd Gary Hooper y tîm cartref ar y blaen wedi chwarter awr ar ôl gwaith da gan Nathan Redman ar y dde.
Dyblodd Kyle Lafferty’r fantais ddeg munud yn ddiweddarach gydag ergyd isel dda o gornel y cwrt cosbi yn dilyn rhediad penderfynol Russell Martin.
Cafodd Peter Wittingham gyfle gwych i dynnu un yn ôl i Gaerdydd o’r smotyn yn fuan wedyn ar ôl trosedd gan Carlos Cuéllar ar Adam Le Fondre, ond llwyddodd John Ruddy i arbed y gic.
Ac roedd y tri phwynt fwy neu lai yn ddiogel yn eiliadau olaf yr hanner wedi i gyn chwaraewr yr Adar Gleision, Cameron Jerome, rwydo trydedd y Caneris yn dilyn rhagor o waith da gan Martin.
Rhoddwyd llygedyn o obaith i Gaerdydd ar yr awr pan rwydodd Alex Revell o groesiad gwych Wittingham, ac roedd gan yr Adar Gleision gyfle gwirioneddol wedi Kadeem Harris ychwanegu ail dri munud yn ddiweddarach.
Revell gafodd y cyfle gorau i unioni pethau wedi hynny on peniodd y blaenwr newydd heibio’r postyn a daliodd Norwich eu gafael ar y fuddugoliaeth.
Mae Caerdydd yn llithro i hanner isaf y Bencampwriaeth, maent bellach yn y trydydd saflear ddeg.
.
Norwich
Tîm: Ruddy, Martin, Turner, Cuéllar, Olsson, O’Neil, Redmond, Johnson, Lafferty (Murphy 73′), Jerome (Grabban 89′), Hooper (Hoolahan 69′)
Goliau: Hooper 15’, Lafferty 25’, Jerome 45’
Cerdyn Melyn: O’Neil 69’
.
Caerdydd
Tîm: Moore, Brayford, Morrison, Turner, Malone (John 66′), Adeyemi (Ralls 88′), Gunnarsson, Whittingham, Noone, Le Fondre (Harris 57′), Revell
Goliau: Revell 61’, Harris 64’
Cardiau Melyn: Le Fondre 38’, Adeyemi 81’, Noone 86’
.
Torf: 25,995