Abertawe 0–5 Chelsea
Cafodd Abertawe gweir go iawn wrth i Chelsea ymweld â’r Liberty yn yr Uwch Gynghrair brynhawn Sadwrn.
Sgoriodd Oscar a Diego Costa ddwy gôl yr un yn yr hanner cyntaf cyn i Andre Schürrle gwblhau’r sgorio wedi’r egwyl.
49 eiliad yn unig oedd ar y cloc pan agorodd Oscar y sgorio yn dilyn camgymeriad amddiffynnol gan Gylfi Sigurdsson.
Bu bron i Sigurdsson wneud yn iawn am ei gam bron yn syth on tarodd ei ergyd yn erbyn y psotyn.
Yn y pen arall roedd angen arbediad da gan Lukasz Fabianski i atal Edin Hazard, ond doedd dim byd y gallai’r golwr ei wneud wedi ugain munud pan ddyblodd Diego Costa’r fantais yn dilyn gwaith creu taclus Oscar a Cesc Fàbregas.
Roedd Chelsea yn chwarae’n wych a dim ond y postyn wnaeth atal Willian rhag ychwanegu trydedd yn fuan wedyn.
Roedd y gêm fwy neu lai ar ben ddeg munud cyn yr egywl serch hynny diolch i ddwy gôl gyflym arall gan yr ymwelwyr.
Manteisiodd Costa ar bas wallus Federico Fernandez i sgorio ei ail ef a sgoriodd Oscar ei ail ef a phedwaredd ei dîm yn dilyn rhagor o waith creu gan Fàbregas.
Tarodd Willian y pren eto cyn yr egwyl ac roedd Abertawe’n ffodus mai dim ond pedair oedd ynddi ar hanner amser.
Tawelodd pethau’r wedi’r egwyl a gôl hwyr yr eilydd, Andre Schürrle, oedd unig ychwanegiad Chelsea yn yr ail gyfnod.
Mae Abertawe’n aros yn nawfed yn nhabl yr Uwch Gynghrair er gwaethaf y canlyniad.
.
Abertawe
Tîm: Fabianski, Tiendalli, Fernández, Williams, Taylor, Sigurdsson, Carroll, Dyer (Barrow 75′), Castro Oliveira (Fulton 66′), Routledge (Emnes 32′), Gomis
.
Chelsea
Tîm: Cech, Ivanovic, Cahill, Terry, Filipe Luis, Fàbregas (Ramires 74′), Matic, Willian (Schürrle 76′), Oscar, Hazard, Diego Costa (Remy 75′)
Goliau: Oscar 1’, 36’, Costa 20’, 34’, Schürrle 79’
.
Torf: 20,785