Mae sgwad dan 20 Cymru ar gyfer pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni wedi cael ei ddisgrifio fel un “cyffrous”.
Wedi ei arwain gan Rory Thornton, mae’r tîm yn cynnwys naw chwaraewr sydd eisoes wedi ennill cap ar lefel rhyngwladol – Luke Garrett, Joe Davies a’r cefnwyr Tom Williams, Tyler Morgan, Joshua Adams and Dafydd Howells, Ollie Griffiths a’r canolwr Garyn Smith.
Fe fydd gem gyntaf y tîm ym Mharc Eirias, Bae Colwyn dydd Sadwrn 7 Chwefror am 7:30yh.
“Mae gennym grŵp ifanc, cyffrous o fechgyn gyda rhai chwaraewyr profiadol o’r tymor diwethaf,” meddai’r hyfforddwr Allan Lewis.
“Fe fydd Lloegr yn sialens enfawr, ond yn un y byddwn ni’n ei fwynhau a’i wynebu hefo’n dwylo yn agored.”
Dyma’r sgwad yn llawn:
Blaenwyr:
Luke Garrett, Harrison Walsh, Dillon Lewis, Alex Jeffries, Joe Jones, Ryan Elias, Liam Belcher, Torin Myhill, Joe Davies, Rory Thornton, Adam Beard, Seb Davies, Tom Phillips, Ollie Griffiths, Harrison Keddie, Jordan Viggers, Rory Bartle
Cefnwyr:
Tom Williams, Kieran Hardy, Owen Davies, Daniel Jones, Callum Sheedy, Garyn Smith, Tyler Morgan, Owen Watkin, Danny Cross, Barney Nightingale, Joshua Adams, Rhys Williams, Elis-Wyn Benham, James Whittingham, Dafydd Howells