Caerlŷr 40–23 Scarlets

Mae’r Scarlets allan o Gwpan Pencampwyr Ewrop ar ôl colli yn erbyn Caerlŷr oddi cartref ar Ffordd Welford nos Wener.

Tri phywnt oedd ynddi ar hanner amser ond aeth y Teigrod â’r gêm o afael y Cymry gyda thri chais yn hanner cyntaf yr ail hanner.

Agorodd Rhys Priestland y sgorio gyda chic gosb gynnar ond sefydlodd y tîm cartref fantais iach wedi hynny gyda dau gais cyflym i’r asgellwr, Miles Benjamin, a’r wythwr, Jordan Crane. 14-3 y sgôr wedi dau drosiad Freddie Burns a chwarter y gêm wedi’i chwarae.

Caeodd Priestland y bwlch gydag ail gic gosb, cyn i Gaerlŷr orffen yr hanner gyda phedwar dyn ar ddeg yn dilyn cerdyn melyn i Graham Kitchener am drosedd arall yn ardal y dacl.

Manteisiodd y Scarlets ar hynny’n syth wrth i’r prop, Rob Evans, dirio wedi sgarmes symudol gref o lein bump. Tri phwynt yn unig oedd ynddi felly ar yr egwyl.

Ond dechreuodd y Saeson yr ail hanner ar dân gyda chais i Adam Thompstone a dau i’r eilydd fachwr, Tom Youngs.

Roedd y gêm fwy neu lai drosodd felly ond roedd digon o amser ar ôl i Harry Robinson sgorio dau gais i’r Scarlets.

Rhain oedd rhai o geisiau gorau’r gêm mewn gwirionedd, yn enwedig y cyntaf, a gafodd ei greu gan Regan King ac Evans i’r gwibiwr ar yr asgell.

Sgoriodd Sam Harrison chweched i’r tîm cartref hefyd wrth i gêm gyffrous orffen yn chwe chais i dri o blaid Caerlŷr, 40-23.

Mae’r canlyniad yn codi’r Teigrod dros y Scarlets i’r ail safle yng ngrŵp 3 ac yn dod â gobeithion y Scarlets o fynd ymlaen yn y gystadleuaeth i ben.

.
Caerlŷr
Ceisiau:
Miles Benjamin 11’, Jordan Crane 16’, Adam Thompstone 47’, Tom Youngs 53’, 58’, Sam Harrison 69’
Trosiadau: Freddie Burns 11’, 16’, 53’, 58’, Owen Williams 69’
Cerdyn Melyn: Graham Kitchener 33’
.
Scarlets
Ceisiau:
Rob Evans 34’, Harry Robinson 60’, 75’
Trosiad: Steven Shingler 75’
Ciciau Cosb: Rhys Priestland 6’, 21’
Cerdyn Melyn: Aaron Shingler 66’