Gleision 104–12 Rovigo
Cafwyd gwledd o geisiau ar Barc yr Arfau nos Wener wrth i’r Gleision dorri pob record yn erbyn Rovigo yng ngrŵp 1 Cwpan Her Ewrop.
Croesodd y tîm cartref am un cais ar bymtheg wrth sgorio dros gant o bwyntiau yn erbyn yr Eidalwyr druan. Roedd dau gais i’r ymwelwyr hefyd yn yr ail hanner ond cysur bach iawn oedd hynny mewn buddugoliaeth mor swmpus.
Roedd y fuddugoliaeth a’r pwynt bonws yn ddiogel hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf yn dilyn pedwar cais yn y chwarter cyntaf gan Lloyd Williams, Josh Turnbull, Richard Smith a Rhys Patchell.
Ymestynnodd y tîm cartref y fantais i 54 pwynt erbyn yr egwyl gyda phedwar cais arall gan Smith, Sam Hobbs, Elis Jenkins a Cory Allen.
Parhau yn gyson a wnaeth sgorio’r Gleision yn yr ail hanner gydag wyth cais arall. Roedd ail sgôr i Williams a Jenkins, a thrydydd i Smith o fewn y deg munud cyntaf.
Cafodd Rovigo eu cyfnod gorau wedi hynny gyda dau gais mewn deg munud, gan ildio un yn unig yn yr un cyfnod, i’r eilydd, Macauley Cook.
Dim ond un cwestiwn oedd ar ôl wedyn; a oedd y Gleision yn mynd i gyrraedd y cant? Ac fe wnaethon nhw hynny gyda cheisiau i Scott Andrews, Kristian Dacey, Gareth Davies a Lewis Jones yn y deg munud olaf.
Gorffennodd Gareth Anscome y gêm gyda 14 pwynt yn dilyn saith trosiad yn yr hanner cyntaf ac ychwanegodd Gareth Davies bump trosiad at ei gais ef yn yr ail hanner i orffen y noson gyda phymtheg pwynt.
Noson gofiadwy ar Barc yr Arfau felly ond canlyniad sy’n codi cwestiynnau am safon rhai o’r timau yn y gystadleuath newydd hon. Mae Gleision ar frig grŵp 1 gydag un gêm ar ôl.
.
Gleision
Ceisiau: Lloyd Williams 7’, 45’, Josh Turnbull 11’, Richard Smith 16’, 26’, 50’, Rhys Patchell 21’, Sam Hobbs 36’, Elis Jenkins 38’, 48’, Cory Allen 40’, Macauley Cook 61’, Scott Andrews 70’, Kristian Dacey 74’, Gareth Davies 79’, Lewis Jones 80’
Trosiadau: Gareth Anscombe 8’, 11’ 21’, 26’, 36’, 38’, 40’, Gareth Davies 46’, 48’, 61’, 79’, 80’
.
Rovigo
Ceisiau: Matteo Maran 57’, Francesco Menon 67’
Trosiad: Denis Majstorvic 68’