Fe fydd y Dreigiau yn gobeithio sicrhau eu lle yn rownd nesaf Cwpan Her Ewrop dydd Sul wrth iddyn nhw deithio i ogledd Lloegr i herio Newcastle.
Mae Gwŷr Gwent ar frig eu grŵp ar hyn o bryd ond dim ond pwynt y tu ôl iddyn nhw y mae Newcastle, felly fe allai popeth newid dros y penwythnos.
Tri newid sydd i dîm y Dreigiau gyda Dorian Jones yn dechrau yn safle’r maswr, Hugh Gustafson yn y rheng flaen a James Thomas yn ymuno â’r rheng ôl.
Mae pump newid hefyd ar y fainc gydag Elliot Dee, Cory Hill, Taulupe Faletau, Luc Jones a Angus O’Brien yn ymuno ag Owen Evans, Lloyd Fairbrother a Geraint Rhys Jones.
“Fe fyddai ennill tlws gyda’r Dreigiau yn grêt a’r cam cyntaf yw’r pythefnos nesaf, wedyn fe all unrhyw beth ddigwydd yn rownd yr wyth olaf,” meddai prif hyfforddwr y Dreigiau Kingsley Jones.
“Fe gyrhaeddais i rownd gynderfynol Cwpan Heineken fel chwaraewr gyda Chaerloyw ac i’r wyth olaf gyda Sale, a’r grwpiau oedd y rhan anoddaf.
“Rydw i wedi bod i Newcastle sawl gwaith fel chwaraewr ac wedyn hyfforddwr ac mae’n le anodd i fynd ond fi’n siŵr ddown ni i ben â’r her.”
Tîm y Dreigiau: Tom Prydie, Matthew Pewtner, Tyler Morgan, Jack Dixon, Hallam Amos, Dorian Jones, Jonathan Evans: Phil Price, Hugh Gustafson, Brok Harris, Andrew Coombs, Rynard Landman (capt), James Thomas, Nic Cudd, Lewis Evans.
Eilyddion: Elliot Dee, Owen Evans, Lloyd Fairbrother, Cory Hill, Taulupe Faletau, Luc Jones, Angus O’Brien, Geraint Rhys Jones.