George North
Mae prif hyfforddwr y Gweilch Steve Tandy wedi galw ar y cefnogwyr i chwarae eu rhan pan fydd y tîm yn croesawu Northampton i Stadiwm Liberty dydd Sul.
Fe allai’r Gweilch dal gyrraedd rownd wyth olaf Cwpan Pencampwyr Ewrop ond fe fyddai’n rhaid ceisio cipio pwynt bonws yn erbyn Northampton, sydd ar hyn o bryd ar frig cynghrair Aviva Lloegr.
Pump newid sydd i dîm y Gweilch o’r pymtheg ddechreuodd yn erbyn y Dreigiau, ac mae’r rheng flaen wedi cael ei newid yn gyfan gwbl.
Cri i’r cefnogwyr
Roddodd y Seintiau gweir i’r Gweilch o 34-6 yn yr hydref, gyda’r Cymro George North yn sgorio pob un o’u ceisiau.
Bydd y Gweilch yn gwybod felly fod her enfawr o’u blaenau nhw dydd Sul os ydyn nhw am fod ag unrhyw obaith o gyrraedd y rownd nesaf erbyn iddyn nhw herio Treviso wythnos nesaf.
Mae Aisea Natoga wedi ei ddewis ar yr asgell yn lle Richard Fussell am y gêm, ac mae tri newid i’r rheng flaen wrth i Marc Thomas, Scott Baldwin ac Aaron Jarvis baratoi i wynebu Northampton.
Bydd James King yn symud o’r ail reng i’r rheng ôl i gymryd lle Dan Lydiate, gyda Rynier Bernardo yn hawlio lle yn y tîm fel clo.
“Dydd y farn yw e i ni yn Ewrop y penwythnos yma cyn belled â r’yn ni yn y cwestiwn felly ni’n gwybod bod rhaid i ni fynd mas yna a rhoi popeth,” meddai Steve Tandy.
“Os allwn ni gael y perfformiad yn iawn, pwy a ŵyr beth all ddigwydd?
“Ni angen ein cefnogwyr ni i fod tu cefn i’r tîm ifanc a chwarae eu rhan ar y noson.”
Tîm y Gweilch: Dan Evans, Aisea Natoga, Ashley Beck, Josh Matavesi, Eli Walker, Dan Biggar, Rhys Webb; Marc Thomas, Scott Baldwin, Aaron Jarvis, Rynier Bernardo, Alun Wyn Jones (capt), James King, Justin Tipuric, Tyler Ardron
Eilyddion: Sam Parry, Gareth Thomas, Dmitri Arhip, Morgan Allen, Sam Lewis, Martin Roberts, Sam Davies, Hanno Dirksen